P-05-907 Newid cyflymder pentre Cemaes i 30mya
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Manon Pughe, ar ôl casglu cyfanswm o 93 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i leihau'r cyfyngiad cyflymder ym mhentref Cemaes (ar ffordd yr A470 rhwng Machynlleth a Dolgellau) o 40mya i 30mya. Galwn arnynt hefyd i ymestyn ardal y cyfyngiad fel ei fod yn cychwyn wrth arwydd Cemaes wrth ddod i mewn i'r pentref o gyfeiriad Glantwymyn.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Sir Drefaldwyn
· Canolbarth a Gorllewin Cymru